top of page
Writer's pictureAnglesey Show

Paratowch ar gyfer y 31ain Sioe Aeaf Môn Flynyddol! Tachwedd 9fed a’r 10fed, 2024


Rhowch y dyddiad yn eich calendr – mae Sioe Aeaf Môn yn ôl am ei 31ain flwyddyn ar Dachwedd 9fed a’r 10fed, 2024, ym Mhafiliwn Jones Bros a Neuadd Cadarn, Maes Sioe Môn, Gwalchmai, Caergybi, LL65 4RW. Wedi’i hadnabod am ei hamgylchedd groesawgar i’r teulu, mae’r Sioe Aeaf yn gyfle unigryw i ffermwyr, busnesau lleol a’r gymuned ehangach ddod at ei gilydd i ddathlu bywyd gwledig Cymru. Wedi’i chynnal yn gyfan gwbl o dan dô mewn neuaddau pwrpasol a gwresog.


Mae Sioe Aeaf Môn yn cynnig dau ddiwrnod llawn digwyddiadau a gweithgareddau, wedi’i chynllunio i ddiddanu, addysgu ac ysbrydoli, mae’r sioe’n dathlu gwaith caled a chryfder y gymuned wledig yn yr wythnosau cyn y Nadolig.


Prif Uchafbwyntiau’r Digwyddiad:

Dydd Sadwrn, Tachwedd 9fed:

  • Cystadlaethau ar gyfer Gwartheg, Defaid, Cynnyrch, Wyau a Choginio.

  • Celfi Llaw, Blodau a Chystadlaethau Plant ar gyfer pob oed.


Dydd Sul, Tachwedd 10fed:

  • Cystadlaethau cyffrous ar gyfer Ceffylau a Chŵn.

  • Cornel yr Anifeiliaid Anwes.

 

Stondinau Masnach: Gyda llond y lle o stondinau masnach, bydd cyfle i ymwelwyr archwilio ystod eang o nwyddau, o eitemau crefft i arddangosfeydd elusennol, busnesau lleol a masnach amaethyddol.


Ymwelwch â Siôn Corn: Diolch i Ffermwyr Ifanc Môn, bydd Siôn Corn yn ymuno â ni eto eleni rhwng 11yb a 1yp bob dydd yn Groto Siôn Corn.


Cyfle i Gyfarfod â Hen Wynebau: Cewch amser i gymdeithasu a dal i fyny gyda phobl cyfarwydd ag eraill sy’n rhannu’r un brwdfrydedd dros fywyd gwledig.

 

Gwybodaeth am y Sioe:

Oriau Agor:

Dydd Sadwrn, Tachwedd 9fed, 2024 – 9:00yb

Dydd Sul, Tachwedd 10fed, 2024 – 9:00yb

Bydd amserlenni manwl ar gael ar ein gwefan ac mewn catalog y Sioe a werthir ar y safle.

 

Prisiau Mynediad:

Mynediad cyffredinol: £5 arian parod yn unig

Plant dan 16 oed: Am ddim

Aelodau CFfI 16 oed ac yn hŷn: £2 gyda cherdyn aelodaeth


Parcio:

Mae parcio am ddim ar gael ar faes y sioe gyda digon o le i bob ymwelydd.


Arlwyo:

Bydd opsiynau bwyd poeth ac oêr ar gael drwy gydol y digwyddiad.


Cyfleusterau Newid Babanod a Mynediad Hygyrch:

Lleoliad newid babanod yn y Pafiliwn Jones Bros yn yr ardal toiledau anabl. Mae pob ardal o’r Sioe yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn, gyda pharcio ymlaen llaw i ddeiliaid Bathodyn Glas a thoiledau addas ar gael.

 

Mae Sioe Aeaf Môn yn ddigwyddiad cyffrous sy’n wirioneddol yn dathlu etifeddiaeth amaethyddol yr ardal. Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y 9fed a’r 10fed o Dachwedd am benwythnos o gystadlaethau, cymuned a mwynhad.

17 views0 comments

Recent Posts

See All

ความคิดเห็น


bottom of page