Diolch o galon i bawb a ymunodd â ni yng Nghinio'r Llywydd a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Jones Bros ar Faes y Sioe. Roedd eich cefnogaeth yn gwneud y noson yn fywiog, bleserus, a chymdeithasol. 🎉
Diolch arbennig i Nia Thomas Jones, ein Siaradwraig Gwadd, am ei chyfraniad ysbrydoledig a diddorol. Roedd y noson hefyd yn cynnwys eitem o arwerthiant bach, gan godi £367.50 ar gyfer Royal Agricultural Benevolent Institution - Cymru / Wales – llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan ohono!
Diolch hefyd i Off The Ground Aerial Imaging am ddal y momentau arbennig o'r noson.
Os ydych chi’n awyddus i drefnu digwyddiad tebyg, cysylltwch â ni i drafod sut y gall ein cyfleusterau ar faes y sioe wneud eich achlysur arbennig yn fythgofiadwy.
Yn olaf, llongyfarchiadau a diolch i Mr John Vernon Jones a Mrs Elen Jones am eu hymroddiad a’u gwaith caled fel Llywyddion y Gymdeithas. Mae eich ymrwymiad a’ch arweiniad yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr! 🌟
Comentarios