top of page

Miss Elliw Griffith

Llysgennad Cymdeithas Amaethyddol Môn 2025

Rwy’n ferch fferm yn enedigol o bentref Penisarwaen, ger Llanberis ac bellach wedi ymgartrefu ar yr Ynys ers riw 5 mlynedd. Mae amaethu a byd busnes yn fy ngwaed, gyda fy rheni wedi arallgyfeirio i fyd busnes fel Ymgymerwyr ac hefyd i wneud gwaith cerrig beddi. Er fod gennyf radd yn y Gymraeg o Birfysgol Caerdydd a gradd MA yn Gymraeg o Brifysgol Bangor, yn fy ngwaith bob dydd rwy’n Saer Maen yn gweithio yn y Gwaith Cerrig Beddi yn Llanrug. Rwy’n aelod o fudiad y Ffermwyr Ifanc ers yn 11 oed gan ddechrau yng nghlwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon, cyn ymaelodi gyda CFFI Dwyran yn 2017. Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o Ffermwyr Ifanc Môn rwyf wedi cael y cyfle i fod yn Gadeirydd Clwb, yn Drysorydd Sirol ac yn Gadeirydd Marchnata a Digwyddiadau CFFI Cymru. Bum i hefyd yn ffodus o fod yn un o gynrychiolwyr y Mudiad ar Gyngor Cymdeithas Amaethyddol Môn ychydig flynyddoedd yn nôl. Yn fy amser fy hun, fyddai’n mwynhau canu yn ogystal a chanu gyda Côr Esceifiog, canu’r biano, darllen a mynd a Bob y ci ar anturiaethau!

Mae sioeau amaethyddol wedi bod yn ran annatod o mywyd wrth dyfu fyny a hynny drwy’r byd ceffylau. Bu Dad a Taid yn arddangos Ceffylau Gwedd hyd y wlad am flynyddoedd oddi dan yr enw ‘Trem y Wyddfa’ a’r fridfa honno’n parhau hyd heddiw. Mae cynifer o atgofion melys gennyf o’r Sioe a sawl un ohonynt yn ymwneud ac arddangos yn y Prif Gylch gyda nheulu, ac wedi colli nhad yn 2016, mae’r atgofion heini yn rai fyddai’n ddiolchgar amdanynt am weddill fy oes. Mae’r Sioe a sawl sioeau amaethyddol eraill yn ran annatod o’r calendr amaethyddol, yn gyfle i dynnu’r gymuned ynghŷd yn ogystal a chyfle i deuluoedd treulio amser a chreu atgofion tu hwnt i’r fferm.

Anrhydedd oedd cael fy newis fel Llysgennad i’r Gymdeithas eleni a chael cyfle i fod yn ran bach o hanes y Gymdeithas, yn ogystal a chael bod yn ran bach o lywio ei dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Rwy’n ffodus iawn hyd yn hyn o fod wedi cael profi’r Sioe fel arddangoswraig o fewn y Prif Gylch, yn ymwelwr yn ymlwybro drwy stondinau’r Sioe ac fel aelod o CFFI Môn yn gwirfoddoli ar stondin y Mudiad yn y Sioe a’r Ffair Aeaf. Eleni, bydd hi’n brofiad go wahanol eto, wrth gael y fraint o weld y gwaith caled tu ôl i’r llenni yn dwyn i ffrwyth gyda’r Sioe a’r Ffair Aeaf.

Mewn cyfnod mor aniscr sy’n gwynebu amaethu, mae ein sioeau amaethyddol ni mor bwysig ag erioed. Heb os nac oni bai maent yn ffenest siop i amaethwyr ond maent hefyd yn gyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o arwyddocâd y ffermwyr a’r byd amaethyddol yn eu bywydau bob dydd. Drwy fod yn Lysgennad i’r Gymdeithas eleni rwy’n gobeithio gallu pontio’r gofod hwnnw a bod yn deilwng o’r rol Llysgennad.

Diolch yn fawr iawn i’r Gymdeithas a’i swyddogion am ymddiried ynnof i ymgymrryd a’r rol hon ac edrychaf ymlaen i gydweithio a chi oll yn ystod y flwyddyn. Rwy’n edrych ymlaen am y sialens ac i gyfarfod wynebau cyfarwydd a newydd yn y Sioe a’r Ffair Aeaf eleni. Hwyl am y tro!

Miss Elliw Griffith

Noddwyr Sioe Haf 2024

Cows Banner.png

Sioe Sir Fôn

Cymdeithas Amaethyddol Môn
Tŷ Glyn Williams, Maes Sioe Môn,
Gwalchmai,
Caergybi,
LL65 4RW

Ffôn: 01407 720072
E-bost: info@angleseyshow.org.uk

© 2024 Anglesey Show, Webdesign by Bridge Digital UK

Cysylltwch

Ar gyfer mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda ni.

Diolch am gyflwyno!

Mwyafrif o'r luniau trwy garedigrwydd Phil Hen

bottom of page