top of page

Cadeiryddes Sioe

Cadeiryddes Sioe Môn 2024

Roedd hi’n anrhydedd cael fy ethol yn Gadeiryddes ar Gymdeithas Amaethyddol Môn eleni. Fel person ifanc wedi fy magu dafliad carreg o Faes y Sioe ym Mona, roedd hi’n fraint a hanner derbyn y rôl hon yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas fis Chwefror. Mae gen i gynifer o atgofion melys o’r Sioe ers yn blentyn, gan gynnwys cystadlu gyda bwgan brain yn y Babell Gynnyrch ac arddangos Merlod a Chobiau Cymreig yn y Prif Gylch. Heb os, bydd profi’r Sioe fel Cadeiryddes eleni yn brofiad arbennig arall.

 

Cychwynnodd fy ymrwymiad swyddogol â Chymdeithas Amaethyddol Môn sawl blwyddyn yn ôl bellach, gan ddeillio o’r flwyddyn ble roeddwn yn Lysgenhades ar y Gymdeithas yn 2017 - 2018. Braint o’r mwyaf oedd derbyn y rôl a chael cyfle i weld ychydig ar sut oedd y Sioe yn gweithredu, a’r holl waith sy’n digwydd yn y cefndir i greu sioe o’r statws yma. Rydym yn ffodus o berthynas gref y Gymdeithas gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc yr Ynys a braf yw gweld sawl aelod o’r Mudiad hwnnw yn eistedd ar Gyngor ac Is-bwyllgorau y Gymdeithas er mwyn sicrhau fod llais yr ifanc yn cael ei fwydo i drafodaethau a penderfyniadau’r Gymdeithas.

 

Mae Sioe Amaethyddol Môn, neu Primin Môn fel yr adnabyddir yma ar yr Ynys yn uchafbwynt i lawer un ac yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr amaethyddol. Dyma gyfle i ni arddangos talentau a chynnyrch amaethyddol yr Ynys i drigolion ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r Sioe wedi gorfod addasu ac ymateb i gyfleon a heriau amrywiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er hyn, teimlaf ein bod wedi llwyddo i gyflwyno agweddau newydd i’r Sioe er mwyn moderneiddio, gan hefyd lynu at egwyddorion craidd y Sioe.

 

Hyderwn y bydd y newidiadau a gyflwynir yn flynyddol yn ychwanegu at lwyddiant y Sioe, a heb os, bydd rhywbeth at ddant pawb i’w fwynhau unwaith yn rhagor eleni. Rwy’n ymfalchïo o fod yn ran o dîm gweithgar o swyddogion a gwirfoddolwyr y Gymdeithas sydd yn gweithio’n ddiflino i gyfrannu at lwyddiant y Sioe. Mae’r gwirfoddolwyr, ynghyd â’n staff arbennig yn meddu ar sgiliau gwych, ac yn cydweithio’n effeithiol er mwyn sicrhau fod y Sioe’n ffynnu. Yn sicr, ni fydda’n bosib llwyfannu sioe o’r safon hon heb y bobl hyn ac mae fy niolch yn anferthol iddynt.


Edrychaf ymlaen i’ch gweld am sgwrs ar y Maes dros ddeuddydd y Sioe, gan obeithio am sioe lwyddiannus a llewyrchus unwaith yn rhagor eleni. Hir oes i Gymdeithas Amaethyddol Môn a’r Primin!


Dr Non G Williams
Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Môn 2024

bottom of page