Llysgenad y Sioe
Llysgenad y Sioe 2024
Manon Wyn Rowlands
Yn ferch o'r Ynys, rwyf wedi cael fy magu dafliad carreg i ffwrdd o faes Sioe Môn ym mhentref Bodffordd. Yno cefais fy addysg gynnar cyn symud ymlaen at addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni. Yna, wrth benderfynu mynd i astudio ymhellach dewisais astudio'r Gymraeg yn y coleg ger y llif yn Aberystwyth. Yno cefais dair blynedd i'w chofio.
Rwyf bellach yn athrawes llawn amser ac yn mwynhau dysgu plant bach dosbarth derbyn Ysgol y Graig, Llangefni.
Yn fy amser hamdden rwyf yn hoffi crwydro a cherdded llefydd newydd, bod yn greadigol a chrefftus wrth wnïo ac yn bennaf oll ar hyn sy'n mynd â rhan helaeth o fy amser ydy bod yn aelod brwd iawn o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol. Braint i mi ydy cael bod y bedwaredd genhedlaeth i fod yn rhan o'r clwb arbennig yma. Rwyf yn aelod o'r clwb ers tair blynedd ar ddeg ac mae'r atgofion yn felys, gwerthfawr a llwyddiannus iawn. Mae'r Clwb a'r Mudiad wedi bod yn sylfaen dda i mi fagu hyder boed i siarad yn gyhoeddus, i berfformio ar lwyfannau Cymru megis yr Eisteddfod neu hyd yn oed i farnu stoc yn y Sioe Frenhinol. Ni allaf bwysleisio gwerth y mudiad wrth iddo gynnig profiadau diddiwedd i bob oed,bob gallu a phob mathau o wahanol ddiddordebau.
Yn ystod fy amser fel aelod rwyf wedi bod ddigon ffodus i fod yn Gadeirydd ac Ysgrifennydd ar y Clwb, yn is-gadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Ynys Môn a bellach eleni yn gadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant.
Er nad wyf yn ferch sy'n byw ar fferm, mae amaethyddiaeth yn agos iawn at fy nghalon. Cefais lawer o brofiadau gyda fy Nhaid ar y fferm. Rwyf wedi mynychu Sioe Môn neu 'Primin' fel y byddaf yn ei alw erioed. Mae'n draddodiad blynyddol ac yn binacl gwyliau'r haf ac yn sicr does 'na ddim ffasiwn beth â methu Sioe Môn. Anrhydedd o'r mwyaf i mi ydy cael fy newis i fod yn Llysgennad i'r Gymdeithas eleni a chael y cyfle i roi help llaw a rhannu fy syniadau gyda'r pwyllgor gweithgar tu hwnt. Yn sicr mae'r Sioe wedi datblygu'n arw a ffynnu wrth i newidiadau megis 'Y Cowt' ddod ymlaen yn ddiweddar.
Yn bendant, mi fydd 'Primin' eleni yn un i'w chofio ac rwyf yn edrych ymlaen yn arw at gael crwydro rownd y stondinwyr, yr arddangoswyr a chael sgwrsio gyda wynebau cyfarwydd.
Hoffwn ategu fy niolchiadau yn fawr i'r Gymdeithas am gael y cyfle i dderbyn y rôl amhrisiadwy hon, i'r gwirfoddolwyr am eu cymorth i sicrhau llwyddiant a rhediad y Sioe ac yna i'r gynulleidfa am fod mor barod i gefnogi'r Sioe blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dymunaf pob lwc i Sioe Môn ac i'r Ffair Aeaf eleni ac i'r dyfodol. Mae cyfnod cyffrous ar y gorwel wrth weld y Sioe yn moderneiddio.